Hafan
Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen
Mae OVMRO yn dîm achub mynydd gwirfoddol yn ymateb i ddigwyddiadau yn y mynyddoedd a dyffrynnoedd o amgylch Dyffryn Ogwen, mynyddoedd y Glyderau a’r Carneddau a’r cyffiniau yng ngogledd Eryri. Rydym ar alw 24 awr y diwrnod trwy gydol y flwyddyn.
Gwirfoddolwyr yw ein haelodau tîm gydag ystod eang iawn o swyddi. Mae aelodau’r tîm i gyd yn fynyddwyr gyda gwybodaeth leol helaeth a hyfforddiant cymorth cyntaf. Mae llawer iawn yn arbenigo mewn gofal anafedig, sgiliau cymorth cyntaf uwch, sgiliau gyrru mewn argyfwng ac achub o ddŵr. Rydym i gyd yn falch iawn o’r traddodiad gwirfodd yn y gwasanaeth chwilio ac achub yn y mynyddoedd.
Rydym yn elusen gofrestredig ac yn ddibynnol ar roddion i gynnal ein gwasanaeth achub bywyd i’r cyhoedd. Mae lawer iawn o waith i’w wneud i godi arian i gefnogi ein gwaith. Mae costau cynnal y tîm achub o gwmpas £65,000 y flwyddyn.