Hysbyseb: Swyddi Gwag Ymddiriedolwyr
Swyddi Gwag Ymddiriedolwyr yn Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen
Swydd: Ymddiriedolwr
Lleoliad: Bryn Poeth, Dyffryn Ogwen, Capel Curig, Conwy
Math: Gwirfoddol gyda thalu treuliau teithio rhesymol
Ydych chi’n angerddol am ddiogelwch mynydd a chefnogi gwasanaeth cymunedol hanfodol? Mae Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen (Sefydliad Corfforedig Elusennol) yn chwilio am dri ymddiriedolwr newydd (2 allanol, 1 mewnol).
Ynglŷn â SAMDO
Wedi’i leoli yng nghanol Eryri, mae Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen wedi bod yn darparu gwasanaethau chwilio ac achub i’r rhai sydd mewn angen ers bron i 60 mlynedd. Mae ein Tim o wirfoddolwyr wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch y cyhoedd, gan gynnig gwasanaethau achub mewn un o ardaloedd mwyaf heriol y DU. Mae’r sefydliad yn cynnal tua 170 o chwiliadau yn flynyddol.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano
Mae angen unigolion arnom sydd â sgiliau, cefndiroedd a phrofiad amrywiol i’n cynorthwyo i barhau â’n gwaith hanfodol. Fel ymddiriedolwr, byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth lywio strategaeth y sefydliad, sicrhau llywodraethu da, a chefnogi’r tîm o wirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser a’u harbenigedd i achub bywydau.
Sgiliau a phrofiad
Rydym yn chwilio am Ymddiriedolwyr sydd â phrofiad mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol:
- Llywodraethu a Goruchwylio Strategol
- Buddsoddi a Rheoli Arian
- Cydymffurfiaeth Gyfreithiol a Rheoleiddiol
- Adnoddau Dynol
- Marchnata, Cyfathrebu a’r Cyfryngau Cymdeithasol
Mae angerdd am achub mynydd a dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu’r Tîm yn hanfodol. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr mewn achub mynydd, ond mae angen ystod eang o sgiliau y tu ôl i’r llenni ar y Tîm i weithio’n effeithiol.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Cefnogi datblygu a gweithredu strategaeth y sefydliad
- Gweithredu yn unol â Chyfansoddiad Sefydliad Elusennol Corfforedig SAMDO
- Cydymffurfio â gofynion y Comisiwn Elusennau
- Sicrhau iechyd ariannol a chynaliadwyedd y sefydliad.
- Darparu arweiniad a goruchwyliaeth ar reoli risg
- Sicrhau bod gan y sefydliad bolisïau clir ar faterion allweddol
- Cynrychioli’r sefydliad i randdeiliaid allanol, partneriaid, a’r cyhoedd
- Cyfrannu at ymdrechion codi arian a helpu i godi ymwybyddiaeth o waith yr elusen.
Pam Dod yn Ymddiriedolwr yn SAMDO?
- Cael effaith uniongyrchol ar ddiogelwch defnyddwyr mynydd yn Eryri
- Gweithio gyda thîm brwdfrydig, medrus a chefnogol
- Ennill profiad gwerthfawr mewn llywodraethu ac arweinyddiaeth o fewn sefydliad proffil uchel, sy’n achub bywydau
- Helpu i lunio dyfodol SAMDO wrth i ni barhau i esblygu ac ymateb i’r galw cynyddol am ein gwasanaethau.
Ymrwymiad Amser
- Disgwylir i ymddiriedolwyr fynychu cyfarfodydd bwrdd rheolaidd (bob chwarter fel arfer), y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a darparu cymorth yn ôl y gofyn.
- Yn aml, mae’n ofynnol i ymddiriedolwyr reoli gohebiaeth e-bost SAMDO a gwneud penderfyniadau.
Sut i wneud cais
I wneud cais neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich diddordeb a’ch profiad perthnasol i: apply@ogwen-rescue.org.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener, 24 Ionawr 2025.
Ymunwch â ni a helpu i wneud gwahaniaeth, bod yn rhan o sefydliad sy’n achub bywydau, yn darparu gwasanaethau hanfodol, ac yn cadw ein mynyddoedd yn ddiogel i bawb. Fe gafodd gwaith y Tîm sylw mawr yng nghyfres y BBC SOS Extreme Rescues, sydd ar gael ar BBC iPlayer.